MARC 10:21 Edrychodd Iesu arno ac fe’i hoffodd …

(BCN) Y darlleniad ar gyfer Sul Carchardai 13 Hydref 2024

TAFLEN WYTHNOS CARCHARDAI 2024

Trugaredd sy’n crynhoi ein gweddïau ar gyfer yr Wythnos Carchardai hon. Mae’r gair Saesneg ‘compassion’ â’i wreiddiau yn y Lladin ‘pasio’ (dioddef) a ‘com’ (ynghyd). Rydyn ni’n sefyll ochr yn ochr â’r rhai y mae’r system cyfiawnder troseddol yn effeithio arnyn nhw, gan agor ein calonnau a’n meddyliau i ddeall poen, brwydrau, ofnau a hiraeth pobl.

Dros y dyddiau nesaf, gweddïwn nid yn unig dros droseddwyr a dioddefwyr troseddau (gan gydnabod bod llawer o garcharorion yn perthyn i’r ddwy garfan) – gweddïwn hefyd dros deuluoedd, ffrindiau, staff carchardai, caplaniaid, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a phawb sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Rydyn ni i gyd wedi ein creu ar ddelw Duw a ddaeth i’r ddaear i fod gyda ni ac i brofi’n poen a’n dioddefaint yn ogystal â’n llawenydd a’n mwyniant. Felly, yn y dyddiau i ddod, byddwn yn oedi i fyfyrio ar gyfarfyddiadau Iesu Grist â phobl pan gerddodd y ddaear, a’i drugaredd, gan gynnig gobaith a’r posibilrwydd o drawsnewid o hyd, hyd yn oed mewn llefydd o ddioddef.

Nid gair goddefol yw trugaredd ond gair sy’n awgrymu ymateb. Wrth i ni gael ein symud gan straeon pobl a’u hamgylchiadau o ymdrech a hiraeth, bydded i’r Ysbryd Glân ein hannog nid yn unig i weddïo, ond hefyd i weithredu mewn ffyrdd ymarferol, waeth pa mor fawr neu fach, gan gynnig pwy ydyn ni, ein cyd-destun, ein hamser, ein hadnoddau a’n llais, i Dduw.

Y Gwir Barchedig Rachel Treweek, Esgob Caerloyw ac Esgob Anglicanaidd Carchardai EF

GWEDDI WYTHNOS Y CARCHARDAI Arglwydd, yr wyt yn cynnig rhyddid i bawb. Gweddïwn dros y rhai sydd yn y carchar. Torra’r clymau o ofn ac unigedd sy’n bodoli. Gyda’th gariad, cefnoga garcharorion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, staff carchardai a phawb sy’n poeni amdanynt. Iacha’r rhai sydd wedi cael eu brifo gan weithredoedd pobl eraill, yn enwedig dioddefwyr troseddau. Helpa ni i faddau i’n gilydd, i weithredu’n gyfiawn, i garu trugaredd a rhodio’n ostyngedig gyda Christ, yn ei nerth ac yn ei Ysbryd, nawr a phob dydd. Amen

DIWRNOD 1 ‘Edrychodd Iesu arno ac fe’i hoffodd.’ Marc 10:21

Dduw a’n Nefol Dad, dangos i ni sut y gallwn roi o’n heiddo yn hael ac yn barod, gan gynnwys ein hamser, i wasanaethu a chefnogi’r rhai rwyt ti’n eu caru ac sy’n annwyl i ti sy’n gysylltiedig â’r system carchardai – carcharorion, eu teuluoedd, dioddefwyr troseddau, a’r rhai sy’n gwasanaethu mewn carchardai fel swyddogion, caplaniaid ac mewn sawl ffordd arall. Gan gofio geiriau’r Arglwydd Iesu bob amser, “Dedwyddach yw rhoi na derbyn”. Amen. Staff – Good News for Everyone.

DIWRNOD 2 ‘Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae’n rhaid imi aros yn dy d? di heddiw.’ Luc 19:5

Dduw croesawgar, rwyt ti’n ein galw ni oll i eistedd a bwyta wrth dy fwrdd. Rwyt ti’n gwybod ein beiau cyn y gallwn eu cyfaddef ac eto rwyt ti’n dal i’n caru ni. Diolch i ti am ein galw o’n cuddfannau ac am ein caru. Gweddïwn dros bawb sy’n cael eu heffeithio gan garchar; bydd gyda nhw pan fyddan nhw mewn poen, yn teimlo’n drist, yn flin, yn unig neu wedi eu bradychu. Diolch am aros gyda’r rhai y mae eraill yn eu gwrthod. Rho lygaid iddyn nhw dy weld pan fyddan nhw mewn mannau tywyll. Gad iddyn nhw weld y golau ynot ti, derbyn dy gariad, a cheisio gwneud daioni ble bynnag maen nhw. Boed iddyn nhw dderbyn dy wahoddiad, Iesu, dilyn dy esiampl, a gwybod y gall dy gariad adfer a thrawsnewid eu bywydau. Amen. Staff – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru

DIWRNOD 3 ‘Pe bait yn gwybod… [p]wy sy’n gofyn iti, ‘Rho i mi beth i’w yfed’, ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti dd?r bywiol.’ Ioan 4:10

Diolch, Iesu, am i ti ddod i chwilio amdana i ac aros gyda mi pan nad oedd neb arall am wneud. Pan oeddwn i’n osgoi eraill ac yn casáu fy hun. Pan na allwn weld sut i ddianc o’r lle tywyll yr oeddwn ynddo. Mae fy nghalon yn llamu bob tro dwi’n meddwl amdanat ti’n aros yn amyneddgar amdana i. Dim ond y ti sy’n gallu edrych i mewn i fy enaid ac adnabod fy nghalon. Hyd yn oed o wybod popeth amdana i – beth mae pobl wedi ei wneud i mi, beth ydw i wedi’i wneud iddyn nhw – rwyt ti’n dal eisiau fy nhynnu allan o’r cywilydd ofnadwy hwnnw. Rwyt ti wedi dangos i mi fod cariad Duw yn fwy pwerus na dim, ac yn dragwyddol. Rydw i eisiau i bobl eraill wybod hynny hefyd.
Fendigedig Arglwydd, mae dy gariad a’th iachâd beunyddiol yn diwallu fy syched. Diolch i ti am gredu ynof fi, am fy ngharu i. Amen. Staff – Spurgeons

DIWRNOD 4 ‘Gwelais di cyn i Philip alw arnat, pan oeddit dan y ffigysbren.’ Ioan 1:48

Annwyl Arglwydd, mae yna adegau pan fyddaf yn meddwl fy mod i ar fy mhen fy hun, heb neb yn fy ngweld, yn fy nghlywed nac yn fy ngharu, ond rwyt ti yno gyda mi bob amser. Rwyt ti’n fy adnabod i ac fel y dywedi yn yr ysgrythur, rwyt ti’n fy ngweld i. Pan fyddaf yn eistedd yn myfyrio’n dawel, rwyt ti yno gyda mi, rwyt ti’n clywed fy meddyliau dyfnaf, rwyt ti’n gweld fy nhristwch a’m gofidiau. Gwn dy fod ti’n dda, a chan fy mod i’n dy garu di, gwn hefyd dy fod ti’n fy ngharu innau. Gwn dy fod ti’n hollbresennol ac yn gallu newid bywydau’r rhai sy’n dy ddilyn di. Helpa fi i gofio i ti gael dy esgymuno, dy anwybyddu a’th ddiystyru, ond mae newid yn bosib ac y gallaf fyw bywyd newydd ynot ti. Amen. Staff – Undeb y Mamau

DIWRNOD 5 ‘Cod dy galon, fy merch; y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.’ Mathew 9:22

Rwy’n dod ger dy fron fel un sy’n dioddef ers blynyddoedd – wedi fy ngwrthod gan ffrindiau a chyfoedion. Rydw i wedi chwilio am gymorth ym mhobman ond y cyfan wnaeth hynny oedd porthi fy anobaith. Mae angen i mi wthio trwy dyrfa amheuaeth gyda gweddi, ond rwy’n teimlo’n annheilwng. Arglwydd, estynnaf atat fel y wraig yn yr efengyl yn ôl Mathew. Arglwydd, gad i mi gyffwrdd yn dy ymylon fel y galli fy helpu fel yr wyt. O Grist Iesu, mae gen i ofn y byddi’n gwrthod fy ngweddi, yn fy nwrdio heb falio dim. Ond Arglwydd, rydw i yno yn y stori honno – a wnei di ddweud, a bod hynny’n wir, ‘Cod dy galon, fy mab, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.’ Preswylydd – The Nehemiah Project

DIWRNOD 6 ‘Yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau, ond un peth sy’n angenrheidiol.’ Luc 10:41

Arglwydd Iesu, rho i mi ddoethineb a dewrder i ganfod cydbwysedd yn fy mywyd, rhwng gwneud a bod. Mae cymaint o loes ac angen yn y byd hwn y mae dy Ysbryd yn fy ngalw i’w cydnabod ac ymateb iddo. Ac eto rwy’n gwybod, heb dderbyn gen ti, rwy’n ymgolli mewn prysurdeb ac nid oes gen i ddim i’w gynnig. Ac wrth i mi ddod ataf fy hun, Arglwydd, rydw i hefyd yn cofio pawb sy’n ceisio gwasanaethu a chefnogi eraill, eu bwydo a’u llenwi’n orlawn er mwyn i bawb adnabod dy nerth achubol. Amen. Caplan Carchar

DIWRNOD 7 ‘Ond bydd llawer sy’n flaenaf yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.’ Marc 10:31

Tyrd, Arglwydd, torra i mewn i’r byd hwn a rho drefn ar ein dirnadaeth; lle mae’r clwyfus a’r drylliedig yn canfod iachâd, lle mae’r gorthrymedig yn cael cyfiawnder, lle mae’r dieithryn yn cael ei groesawu. Boed i’th drugaredd ein cyffroi. Rho galon newydd i ni, gweledigaeth newydd o bwy ydyn ni fel dy bobl a sut rwyt ti’n galw arnom i fyw gyda’n gilydd. Gwrando ar ein gweddïau am newid; er mwyn i dy Deyrnas ddod i’n cartrefi, i’n gweithleoedd, i’n carchardai ac i’n cymunedau. Amen. Ymddiriedolwr – Yellow Ribbon

Mae’n edrych arnoch chi ac yn eich caru
Mae’n edrych arnyn nhw ac yn eu caru

New to Prisons Week?

This, in a nutshell is what we believe, how we work together and what we do. If you're new to Prisons Week this is the best place to start.

A Unique Collaboration

Prisons Week is a leading example of the broadest expressions of the church working together for a common good.

Latest News